Ymateb Cyngor Sir Ynys Môn - Mesur Llywodraeth Leol ac Etholiadau

Cyflwyniad i Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cymru.

Mae'r Cyngor o'r farn y dylai unrhyw ddeddfwriaeth yn y maes hwn fod yn seiliedig ar y brif egwyddor democratiaeth leol - diogelu llywodraeth leol ac atebolrwydd lleol am ddarparu gwasanaethau.

 Rhan 1    Etholiadau

1.0 Ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16-17 oed

Yn ei ymateb i'r Papur Gwyn – ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’, amlygodd y Cyngor fod angen “ rhoi ystyriaeth briodol i'r mater hwn ac y dylid ei dreialu lle bo'n briodol. Cefnogir gostwng yr oed pleidleisio i 16 oed a byddai'n annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn ymgysylltiad democrataidd - mae nifer y bobl ifanc sy'n pleidleisio yn parhau i fod yn isel ledled y wlad. "

Awgrymir y dylid cytuno ar ganllawiau cenedlaethol ac amserlen baratoadol ddigonol cyn gweithredu.

 

1.1 Ymestyn yr etholfraint llywodraeth leol i ddinasyddion o unrhyw wlad.
Cefnogir y newid hwn yn gyffredinol a dylai dinasyddion cyfreithlon sy'n byw yng Nghymru gael yr hawl i bleidleisio yn ddarostyngedig i ganllawiau Llywodraeth Cymru.

1.2 Ymestyn yr etholfraint llywodraeth leol i garcharorion.

Dylid rhoi ystyriaeth bellach i'r agwedd hon ar sail arweiniad LlC / cymwyseddau  yn y maes hwn. Dylai Llywodraeth Cymru drafod ei sgôp a’i weithrediad ymarferol gyda gweinyddwyr Etholiadol. Mae angen goblygiadau llawn y cynnig hwn cyn cefnogi hyn.



1.3 Dwy system bleidleisio

Mae'r Cyngor o'r farn y dylid bod 1 system bleidleisio ac y dylai’r trefniadau cyfredol barhau. Dylid ystyried canlyniadau etholiadau yn y gorffennol pan fo dwy broses wedi'u rhedeg ar yr un pryd a lefel y papurau pleidleisio annilys.



1.4 Newid y cylch etholiadol ar gyfer prif gynghorau o 4 i 5 mlynedd.

Unwaith eto, cefnogwyd hyn gan y Cyngor yn ei gyflwyniad yn 2017 ar ddiwygio etholiadol i sicrhau cysondeb â chylchoedd etholiadol eraill.
Nodir y bydd angen diwygio deddfwriaeth arall hefyd i adlewyrchu'r newid hwn.



1.5 Bod yn gymwys ac yn anghymwys i sefyll mewn etholiad a bod yn aelod o awdurdod lleol.

Gan gyfeirio at gynigion i ddiwygio’r darpariaethau anghymhwyso yng Nghymru i gynnwys unrhyw un sy'n destun gofynion hysbysu dan y Ddeddf Troseddau Rhywiol, neu orchymyn dan y cyfryw ddeddf - cefnogir y newidiadau hyn.

Yn flaenorol, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cefnogi diwygio meini prawf cymhwysedd ar gyfer ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol i ganiatáu i ddinesydd o unrhyw Wlad sefyll mewn etholiad. Yn gyffredinol, cefnogir hyn gan y Cyngor ond mae angen arweiniad penodol gan y llywodraeth ganolog ar feini prawf cymhwysedd.

Mae'r Bil yn cynnig newidiadau sy'n caniatáu i weithwyr sefyll etholiad yn eu hawdurdod eu hunain. Er y cefnogir yr egwyddor o annog mwy o gyfranogiad mewn etholiadau lleol, mae yna rai risgiau posib gyda hyn a phryderon ymarferol. Mae'r rhain yn cynnwys cysylltiadau gweithwyr, llywodraethiant a gwrthdaro diddordeb a’r berthynas gyffredinol gyda staff. Agwedd arall yw’r cyfnod rhybudd ac ystyriaethau ymarferol - ni chynigir unrhyw gyfnod rhybudd.

Mae angen deialog bellach ar newidiadau o'r fath rhwng llywodraeth leol a Chynulliad Cymru. Hefyd, os gweithredir y newidiadau hyn bydd angen diwygio'r Côd Ymddygiad statudol a chyhoeddi canllawiau cenedlaethol. Bydd hefyd angen mynd i'r afael â rheoliadau ynghylch swyddi sydd â chyfyngiadau gwleidyddol.

 

1.6 Cwrdd â Gwariant Swyddogion Canlyniadau

 

Mae rôl y Swyddog Canlyniadau yn annibynnol ar y Cyngor gyda llwyth gwaith ychwanegol sylweddol ac mae yna rwymedigaethau a risgiau personol. Mae'r Cyngor o'r farn y dylai hwn fod yn fater ar gyfer disgresiwn lleol, o ystyried y rhwymedigaethau personol sy’n gysylltiedig â chyflawni’r rôl. Os nad yw ffioedd personol yn daladwy mwyach a fydd angen adolygu tâl Prif Weithredwyr?

 

 


2.0 Rhan 2 Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol

2.1 Mae'r Cyngor yn croesawu cyflwyno pŵer cymhwysedd cyffredinol.
Dylai hyn ganiatáu ar gyfer mwy o arloesi, mwy o bwyslais ar ddeilliannau a llywodraeth leol sy’n fwy effeithiol / ymatebol ar lefel leol. Mae angen gwaith manwl ar y maes hwn i sicrhau mwy o hyblygrwydd a sicrwydd i Gynghorau.
Nodir bod y pŵer hwn eisoes mewn grym yn Lloegr ond bod y defnydd a wneir ohono’n gyfyngedig oherwydd cymhlethdod.



3.0 Rhan 3 Hyrwyddo Mynediad i Lywodraeth Leol

3.1 Nododd y Cyngor yn ei ymateb i'r Papur Gwyrdd - Mehefin 2018:

‘Mae Aelodau Etholedig yn chwarae rhan hollbwysig mewn democratiaeth iach a chynllunio lle. Mae'r Cyngor eisoes wedi pwysleisio pwysigrwydd llywodraethu da ac atebolrwydd lleol. Mae angen arweiniad clir ynghylch y disgwyliadau ar Aelodau i gyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau, gan gynnwys gosod amcanion ac adolygiadau datblygiad personol blynyddol. ’


Mae'r Bil yn cynnig dyletswydd gyfranogi newydd ar awdurdodau lleol, er y gellid dadlau bod Cynghorau’n cyflawni’r swyddogaeth hon eisoes. Bydd y cynnig i osod cyfrifoldebau statudol ar Gynghorau i gyflawni dyletswyddau dros neu ar ran awdurdodau ‘cysylltiedig’ ymreolaethol eraill megis cynghorau cymuned yn arwain at gymylu’r atebolrwydd a baich rheoleiddio ychwanegol a baich ychwanegol o ran adnoddau. Ni ellir ond annog cyfranogiad y cyhoedd, ni ellir ei orfodi. Ni all y Cyngor fod yn gyfrifol am gymryd rhan ar ran cyrff statudol eraill - byddai'n tanseilio eu rôl a'u hatebolrwydd. Mae'r drafftio cyfredol yn rhy gyffredinol ac o'i weithredu gallai olygu cyfrifoldebau a chostau ychwanegol i’r Cyngor - mae 40 o Gynghorau Cymuned ar Ynys Môn. Nid dyna’r achos mewn rhai awdurdodau trefol mawr yng Nghymru lle nad oes ond nifer fach o Gynghorau Cymuned.

 

 

Strategaeth ar gyfer annog cyfranogiad

Mae llawer o hyn eisoes yn ei le - mae gan y Cyngor strategaeth cysylltiadau cyhoeddus ac ymgysylltu. Mae'r Cyngor yn gweithredu Bwrdd Ymgysylltu ac Ymgynghori allanol sy’n cynnwys y 3ydd Sector i oruchwylio gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd fel rhan o'i drefniadau llywodraethu. Mae cyfanswm o 10 aelod cyfetholedig yn eistedd ar Bwyllgorau Craffu, Archwilio a Safonau'r Cyngor, a phenodwyd y cyfan  ohonynt trwy broses gystadleuol. O ran cymhareb, mae hynny’n nifer sylweddol o gofio mai 30 Aelod etholedig sydd gennym. Mae'r Cyngor hefyd yn ymgysylltu'n weithredol â rhanddeiliaid lleol trwy gynllunio lleoedd a thrawsnewid gwasanaethau / defnyddio technoleg. Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd cyswllt rheolaidd â Chynghorau Tref a Chymuned.


Dyletswydd i wneud cynllun deisebu

Cefnogir cynigion yn y Bil i ddiddymu pleidleisiau cymunedol ac i gyflwyno dyletswydd i lunio cynllun deiseb a byddent yn lleihau costau i awdurdodau lleol.  Fodd bynnag, mae’n bwysig cael canllawiau manwl ar gyfer gweithredu’r cynllun a phennu trothwyon -  mae'n bwysig ymgynghori ar safonau cenedlaethol.

Dyletswydd ar brif Gynghorau i gyhoeddi cyfeiriadau swyddogol.

Cefnogir caniatáu i’r manylion cyswllt a gyhoeddir fod yn gyfeiriad cyffredinol y Cyngor. Mae hwn yn fater a godwyd yn y cyfarfod o Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2019 - mae rhai aelodau wedi codi pryderon ynghylch preifatrwydd ac aflonyddu.

Darllediadau electronig o gyfarfodydd.

Ers 2013, mae'r Cyngor wedi bod yn gweddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a'r Pwyllgor Gwaith. Mae'r ffigyrau gwylio yn amrywio yn dibynnu ar y pynciau sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd. Mae’r costau blynyddol   oddeutu 13K ar hyn o bryd ond mae costau staffio ychwanegol oddeutu 2k y flwyddyn hefyd.


Er bod y Cyngor yn cefnogi gweddarlledu fel modd i hyrwyddo mwy o dryloywder ac agoredrwydd, mae goblygiadau ariannol i’r ddyletswydd i ymestyn trefniadau gweddarlledu i bob pwyllgor. Mae'r rhain yn cynnwys gwneud addasiadau i ystafelloedd pwyllgor y Cyngor, gan bod yr ystafelloedd hyn yn well ar gyfer cynnal cyfarfodydd craffu oherwydd cynllun yr ystafelloedd (ar hyn o bryd dim ond yn Siambr y Cyngor y mae yna offer gweddarlledu). Mae’r costau ychwanegol o ran cael offer / gwneud addasiadau, costau staffio, gan gynnwys costau cyfieithu, yn debygol o fod yn fwy na 20K y flwyddyn.  Dylid cwrdd ag unrhyw gostau ychwanegol i awdurdodau lleol yn ganolog. Dylai’r gwaith o gaffael unrhyw systemau gael ei wneud yn genedlaethol a chanolbwyntio ar system gwbl awtomataidd - gan leihau'r baich o ran yr angen am gymorth staff. Ystyriaeth allweddol fydd pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion yr iaith Gymraeg a chyfieithu.

Mae'r Cyngor o'r farn y dylai pa gyfarfodydd a ddarlledir fod yn fater o ddewis lleol.

Aelodau awdurdodau lleol yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell.

Mae'r Cyngor eisoes wedi tynnu sylw bod gan y mater hwn oblygiadau ymarferol / technegol a goblygiadau o ran adnoddau mewn perthynas â’r trefniadau llywodraethu. Gwrthodwyd hyn yn flaenorol gan y Cyngor a chodwyd materion eraill  gan gynnwys diogelu data h.y. cyfrinachedd - pan fo’r wasg a’r cyhoedd wedi eu cau allan o gyfarfodydd pan fo eitemau eithriedig yn cael eu hystyried o leoliad pell na all y Cyngor eir reoli. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ran gwybodaeth sy’n fasnachol sensitif neu lle gellir adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yr unigolion sy'n cael eu trafod  . Mae aelodau hefyd wedi tynnu sylw at ddibynadwyedd y rhwydweithiau TGCh i gefnogi cymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell ac ariannu Wi-Fi addas

Mae angen sicrhau bod unrhyw ddatrysiad ymarferol yn cael ei dreialu’n iawn a rhaid rhoi sylw dyledus i gefnogi unrhyw drefniadau o'r fath, yn enwedig darparu gwasanaeth cyfieithu cynhwysfawr. Croesewir bod mwy o hyblygrwydd  i bennu trefniadau yn rheolau sefydlog y Cyngor.


4.0 Rhan 4 Gweithrediaethau, Aelodau, Swyddogion, a Phwyllgorau Awdurdodau Lleol


Cefnogir yr egwyddorion cyffredinol gan gynnwys diweddaru darpariaethau absenoldeb teulu yn unol â'r rheini sydd ar gael i weithwyr. Mae'r ddyletswydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i arweinwyr grŵp gynnal safonau ymddygiad uchel yn bwysig ac mae rôl y Pwyllgor Safonau hefyd yn bwysig yn hyn o beth. Mae'r Cyngor yn cefnogi safbwynt Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar reoli perfformiad Prif Weithredwyr a risgiau posib o ymyrraeth Weinidogol mewn cysylltiadau lleol. Mae angen arweiniad manwl ar y mater hwn i ymgynghori yn ei gylch.

 

5.0 Rhan 5 Prif Gynghorau yn Cydweithio

Mae pwerau i sefydlu Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol yn destun trafodaeth  genedlaethol rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Ni chefnogir caniatáu i Lywodraeth Cymru fandadu Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol ac mae angen monitro'n ofalus y posibilrwydd o’i ymestyn i ardaloedd y tu allan i'r ardaloedd sgopio arfaethedig cyfredol - gallai hyn arwain at ddryswch ac amharu, a hynny ar draul canolbwyntio ar gyflawni newid gwirioneddol yn lleol.

Mae angen cydnabod hanes Cynghorau Gogledd Cymru o weithio'n organig i  hyrwyddo gwaith rhanbarthol. Mae'r newidiadau hyn, ar ben y gofynion statudol presennol e.e. y  Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, yn ofynion sylweddol, yn ogystal â mentrau gwirfoddol megis y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd a’r Consortiwm Addysg Rhanbarthol (GwE) yn ogystal â’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Rhanbarthol. Gallai hyn, o bosib, or-ganoli trefniadau ar gyfer cynllunio strategol / gwasanaethau allweddol a byddai perygl y byddai llywodraeth leol / atebolrwydd yn gwanhau. Ni wyddys beth fyddai’r costau a byddai’n rhoi galwadau logistaidd ychwanegol ar Gynghorwyr / Swyddogion - mae angen mynd i'r afael â'r rhain. Dylai'r drafodaeth genedlaethol ganolbwyntio ar y materion llywodraethu pwysig hyn. Dylai awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru gyd-gynhyrchu rheoliadau sy'n addas i’r diben ar gyfer gwasanaethau diffiniedig dan sylw, a sicrhau bod newidiadau yn diogelu darpariaeth gwasanaeth, atebolrwydd lleol ac yn darparu gwerth am arian. Mae angen rhoi sylw priodol i’r achos i newid / trosglwyddo unrhyw drefniadau sy'n bodoli a dylid dangos y manteision o’r cychwyn. Mae angen trafod y trefniadau llywodraethu cyffredinol.

Amlygir ystyriaethau eraill sef materion cyllido a’r baich Gynghorau o orfod cynnal gwasanaethau lleol allweddol a threfniadau rhanbarthol ychwanegol. Bydd angen ystyried y Rheoliadau ynghylch gweithrediad yr is-bwyllgorau arfaethedig yn llawn. Dylai'r canllawiau fynd i'r afael â materion llywodraethu gan gynnwys yr angen i swyddogion statudol gefnogi, rheoliadau mynediad at wybodaeth, gweddarlledu a phresenoldeb o bell.

Mae angen rhoi sylw priodol i rôl a dylanwad Swyddogion Llywodraeth Cymru ar is-bwyllgorau o’r Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol, ynghyd â’r effaith ar ddemocratiaeth leol. Dylai’r canllawiau roi sylw i faterion llywodraethu gan gynnwys yr angen am swyddogion statudol i gefnogi, rheoliadau mynediad i wybodaeth, gweddarlledu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell.

 

6.0 Perfformiad a Llywodraethu Prif Gynghorau

Cefnogir fframwaith perfformiad symlach. Mae’r Cyngor eisoes wedi cyflwyno trefn o gynhyrchu hunanasesiadau blynyddol fel rhan o drefniadau rheoli perfformiad corfforaethol ac ystyrir ei fod yn enghraifft o lywodraethu / disgyblaeth dda.

Fodd bynnag, ni chefnogir cynigion ar gyfer asesiadau Panel a byddent yn tueddu i wrthdaro â heriau gwirfoddol gan gymheiriaid - mae'r rhain yn fwy hyblyg. Mae angen mwy o waith yn y maes hwn ar drefniadau ymarferol ynghylch darparu asesiadau panel.

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Cefnogir ailenwi fel Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Ni chefnogir newidiadau i’r aelodaeth nac aelodau lleyg ychwanegol. Os daw'n orfodol i benodi Cadeirydd annibynnol ar gyfer y Pwyllgor, mae yna faterion cyllido i’w hystyried ac mae angen canllawiau gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Gallai hyn effeithio ar y rheoliadau sy'n ymwneud â nifer yr uwch gyflogau sy'n daladwy. Dylai cydbwysedd yr aelodaeth fod yn fater ar gyfer disgresiwn lleol a dylid diogelu democratiaeth leol. Gall y gallu i recriwtio aelodau lleyg fod yn her, o bosib, mewn rhai ardaloedd ac mae goblygiadau cost.

7.0 Uno ac Ailstrwythuro'r Prif Ardaloedd.

Nododd y Cyngor yn ei ymateb i'r Papur Gwyrdd - 2018:

‘Mae’r Cyngor eisoes wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cynnal y status quo o ran strwythurau i ddiogelu atebolrwydd lleol ac y dylai darpariaeth gwasanaethau ganolbwyntio ar gwrdd ag anghenion cymunedau lleol. (Ymateb i Bapur Gwyn 2017). Mae'r Cyngor hefyd wedi amlygu a chydnabod manteision darparu rhai gwasanaethau yn rhanbarthol fel yn achos Gogledd Cymru, a bod y modelau cydweithredol hyn yn darparu sylfaen ar gyfer mwy o wytnwch, yn amodol ar eu mireinio a gwneud gwell defnydd o adnoddau traws-sector ac atebolrwydd lleol. Mae angen i ddarpariaeth gwasanaeth fod yn gydbwysedd cywir rhwng manteision yr hyn a gyflawnir yn lleol ac yn rhanbarthol, wedi’i siapio gan gynrychiolaeth ddemocrataidd ar lefel leol gan y rheini a etholwyd i wasanaethu eu cymunedau.’

 

Cefnogir y cysyniad o uno gwirfoddol ac mae'n fater o ddisgresiwn gwleidyddol lleol i’r awdurdodau lleol yn seiliedig ar achos busnes cadarn a dymuniadau trigolion lleol.Mae costau ailstrwythuro Cynghorau yn sylweddol ac mae ymrwymiadau ariannol blynyddol yr awdurdod yn parhau ers 1996 yn codi o gyfraniadau pensiwn. Mae hyn yn ymrwymiad am genhedlaeth i bob pwrpas.

 

8.0 Rhannau  8 a 9.   Cyllid ac Amryfal Newidiadau

Newidiadau technegol yw’r mwyafrif a gynigir ac maent yn sicrhau bod y pwerau sy'n ymwneud â Threthi Annomestig yn unol â'r pwerau sydd gan Gynghorau eisoes mewn perthynas â chasglu’r Dreth Gyngor neu sydd gan y Swyddfa Brisio ar hyn o bryd. Cefnogir y newidiadau hyn gan y Cyngor.

Mae'r newidiadau hefyd yn dileu pŵer y Cynghorau i geisio dwyn achos traddodi yn erbyn y rheini sy'n methu â thalu’r Dreth Gyngor sy'n ddyledus. Ar hyn o bryd mae'r newid yn dod o dan Reoliadau a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2019. Ychydig o ddefnydd a wnaed o’r pwerau hyn gan Ynys Môn a dim ond mewn achosion lle'r oedd gan yr unigolyn fodd i dalu ond wedi dewis peidio â gwneud hynny a lle’r oedd y Cyngor wedi disbyddu'r holl opsiynau eraill oedd ar gael i adennill y ddyled. Mae'n anffodus bod y pwerau hyn wedi'u dileu ac nad oes unrhyw bwerau ychwanegol yn cymryd eu lle er mwyn cryfhau sefyllfa'r Cyngor wrth ddelio â'r grŵp bach hwn o bobl nad ydynt yn talu, lle mae'r holl ddulliau eraill o adennill y ddyled wedi'u disbyddu neu na ellir eu defnyddio.